Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 25 Ionawr 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 12:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Julie Morgan Ieuan Wyn Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Neville Davies, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Lowri Gwilym, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru David Evans, Director of Finance, Pembrokeshire College Judith Evans, Principal, Coleg Morgannwg Nicky Howells, External Funding Manager, Pembrokeshire College Karen Phillips, Deputy Principal, Coleg Morgannwg Marc Vermyle, DG Employment, European Commission Agnes Linemans, DG Regional Policy |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Naomi Stocks (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Eleanor Roy (Ymchwilydd) Susan Morgan (Cynghorydd Cyfreithiol) Ben Stokes (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones.
1.3 Datganodd Mike Hedges fuddiant fel cyn-weithiwr yng Ngholeg Morgannwg.
2. Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Guy Flament, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Polisi Rhanbarthol, y Comisiwn Ewropeaidd; Agnes Lindemans, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Polisi Rhanbarthol; a Marc Vermyle, y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Cyflogaeth, i gyfarfod y Pwyllgor drwy fideo gynhadledd.
2.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.
Camau i’w cymryd:
· Cytunodd y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Polisi Rhanbarthol i ddarparu gwiriad o’i thystiolaeth bod economi Cymru’n ddibynnol iawn ar y sector cyhoeddus.
· Cytunodd y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol ar gyfer Cyflogaeth i ddarparu gwybodaeth am y defnydd o gyfraddau ymyrraeth uwch i gefnogi prosiectau newydd yng Nghymru ers 2009.
3. Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm - Ewrop ac Adfywio, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a Neville Davies, Cynghorwr Ewropeaidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Phennaeth Polisi Ewropeaidd a Chyllid Allanol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, i’r cyfarfod.
3.2 Bu’r Aelodau’n holi’r tystion.
Cam i’w gymryd:
· Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu manylion ynghylch nifer y prosiectau sy’n cael eu harwain gan lywodraeth leol yng Nghymru sydd wedi defnyddio cyfraddau ymyrryd uwch.
4. Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Coleg Sir Benfro a Choleg Morgannwg
4.1 Croesawodd y Pwyllgor Nicky Howells, Rheolwr Cyllid Allanol, Coleg Sir Benfro; David Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Coleg Sir Benfro; Judith Evans, Pennaeth, Coleg Morgannwg; a Karen Phillips, Dirprwy Bennaeth, Coleg Morgannwg, i’r cyfarfod.
4.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tystion.
5. Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Pwyllgor Monitro'r Rhaglen
5.1 Croesawodd y Pwyllgor Dr Mark Drakeford, Cadeirydd Pwyllgor Monitro'r Rhaglen.
5.2 Bu’r Pwyllgor yn holi’r tyst.
6. Papurau i'w nodi
7.
6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013.
6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013.
6.3 Cymeradwyodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
8. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:
9. Benthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf - Cylch gorchwyl posibl a gwybodaeth gefndir berthnasol
8.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei ymchwiliad i fenthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.
10. Protocol y Gyllideb Ddrafft gyda Llywodraeth Cymru
9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y protocol sy’n bodoli gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb ddrafft.
Trawsgrifiad
View the meeting transcript.